Mae Tan Yr Wyddfa yn Rhyd Ddu, rhwng Caernarfon a Beddgelert, yn Eryri (gweler y map ar waelod y dudalen). Mae’r cwt yn ganolbwynt gwych ar gyfer teithiau cerdded gyda llwybr Rhyd Ddu i fyny’r Wyddfa, Crib Nantlle, Moel Hebog, Mynydd Mawr ac Yr Aran i gyd o fewn cyrraedd. Ar gyfer dringo mae Cloggy, sydd o fewn pellter cerdded neu Llanberis Pass, Ogwen Valley, Tremadog a Moelwyn sydd i gyd o fewn pellter gyrru hawdd. Mae Gogarth dim ond awr o siwrne i ffwrdd yn y car. Mae’r bwthyn yn agos i Rheilffordd Ucheldir Cymru, ac mae yna dafarn a chaffi gerllaw. Mae siopau, bwytai a tafarnau Beddgelert dim ond pum milltir i ffwrdd.
LLETY
Ni chaniateir anifeiliaid yn y cwt.
LAWR GRISIAU
Mae’r cyfleusterau canlynol yn y gegin – 2 ffwrn nwy, meicrodon, tegellau trydanol, boeler dŵr twym, tostwyr, ynghyd ag holl offer coginio angenrheidiol, llestri, cyllyll a ffyrc a llieiniau sychu llestri. Mae’r ystafell fwyta drws nesa i’r gegin. Mae yna hefyd ystafell amlbwrpas gyda 2 oergell, rhewgell a raciau storio bwyd. Mae 2 toiled ynghyd ag ystafell sychu dillad. Mae ystafell fyw mawr gyda tân agored. Cyflenwir pren a glo. Tu allan mae yna sied feiciau sydd yn medru cael ei gloi, man storio pren a glo.
I FYNY’R GRISIAU
Mae yna 4 ystafell wely ble mae lle ar gyfer 23 i gysgu mewn gwelyau bync. Mae un o’r stafelloedd (6 gwely) wedi ei neilltuo ar gyfer aelodau Oread. Darperir matresi a gobenyddion, ond fydd angen i westeion ddod a sachau gysgu eu hun. Mae’r ystafelloedd gwely i gyd yn cael eu wresogi gan wresogyddion storio trydan. Mae yna ystafelloedd ymolchi i ddynion a menywod gyda chawodydd a thoiledau.
TU ALLAN
Mae yna le ar gyfer 10 car i barcio drws nesaf i’r cwt. Gellir caniatáu gwersylla cyfyngedig ond rhaid ei drefnu o flaen llawr trwy’r ysgrifennydd bwcio cwt.
Click a date to set the arrival date, Booking Date, and a second date to set the departure date, Nights.
Calendar Key
Available
Available, Whole Hut Booking at Weekends
Members Bookings Only
Fully Booked
Meet
Multiple Restrictions (hover dates to see a list of restrictions)
Mixed Beds
Member Only Beds
LLEOLIAD
Dynesfa a Maes Parcio
Maes parcio: mynediad mewn car drwy’r maes parcio cyhoeddus (gweler y map) Mae lle i 10 car i gyd. Rhaid i unrhyw orlif ddefnyddio’r maes parcio talu ac arddangos. Mae’r trac mynediad yn arw a dylid ei ddefnyddio’n ofalus iawn. Nid yw’r Oread M. C. yn gyfrifol am unrhyw golled neu ddifrod i gerbydau sy’n defnyddio’r trac mynediad neu’r maes parcio.